click below
click below
Normal Size Small Size show me how
Mynediad Arholiad
Cwestiynau Prawf Llafar - Gogledd
| Question | Answer |
|---|---|
| Lle dach chi'n byw? | Dw i'n byw ger Bryste. |
| O le dach chi'n dŵad yn wreiddiol? | Dw i'n dŵad o Gaergwrle yn wreiddiol. |
| Oes gynnoch chi deulu? | Oes, mae gen i ddau fab. |
| Oes gynnoch chi anifail anwes? | Oes, mae gen i gath. |
| Sut wnaethoch chi ddŵad yma heddiw? | Mi wnes i yrru yma heddiw. |
| Be dach chi'n hoffi ar y teledu? | Dw i'n hoffi gwylio ffilmiau ar Netflix. |
| Sut mae'r tywydd heddiw? | Mae hi'n braf iawn heddiw. |
| Sut oedd y tywydd ddoe? | Roedd hi'n bwrw glaw ddoe. |
| Am faint o'r gloch dach chi'n cael swper fel arfer? | Dw i'n cael swper am chwech o'r gloch fel arfer. |
| Am faint o'r gloch dach chi'n mynd i'r gwely fel arfer? | Dw i'n mynd i'r gwely am unarddeg o'r gloch fel arfer. |
| Lle dach chi'n dysgu Cymraeg? | Dw i'n dysgu Cymraeg ar lein. |
| Pam dach chi'n dysgu Cymraeg? | Cymraeg ydy fy hoff iaith. |
| Lle aethoch chi i'r ysgol? | Mi es i i'r ysgol yn Yr Hôb. |
| Be ydy'ch gwaith chi? | Cerddor dw i. |
| Be dach chi'n hoffi wneud yn eich amser sbâr? | Dw i'n hoffi seiclo yn fy amser sbâr. |
| Lle dach chi'n mynd ar dy feic di? | Dw i'n hoffi seiclo i gaffi ger fy nhŷ. |
| Be mae'n rhaid i chi wneud yfory? | Bydd rhaid i mi fynd am dro yfory. |
| Be dach chi'n wneud heno? | Dw i'n ymlacio ar y soffa heno. |
| Be dach chi'n wneud y penwythnos nesa? | Mi fydda i'n mynd i'r traeth y penwythnos nesa. |
| Be wnaethoch chi neithiwr? | Mi wnes i goginio swper neithiwr. |
| Be wnaethoch chi ddoe? | Mi es i i oriel ddoe. |
| Be wnaethoch chi penwythnos diwetha? | Mi es i i gyngerdd ym Mryste penwythnos diwetha. |
| Lle aethoch chi ar eich gwyliau diwetha chi? | Mi es i i ymweld â fy chwaer yn Y Swistir. |
| Be oeddech chi'n hoffi wneud pan oeddech chi'n blentyn? | Ro'n i'n hoffi cerdded yn y mynyddoedd pan o'n i'n blentyn. |